Nick Ramsay AC 

Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cynulliad Cenedlaethol Cymru 

Bae Caerdydd 

CF99 1NA 

 

 

 

                                                                                                                                     21 Mai 2018

 

 

 

Diolch am eich nodyn diweddar yn gofyn i ni roi'r newyddion diweddaraf i chi am Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

 

Rwy'n ymwybodol o ymrwymiad fy rhagflaenydd (Owen Evans) i roi briff llawn i'r Pwyllgor ar y mater hwn unwaith y bydd y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd wedi dod i ben.  

 

Rwy'n siŵr bod y Pwyllgor yn ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi, ym mis Ionawr 2018, fod camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn y ddau sefydliad sy'n gyfrifol am redeg y Gronfa o ddydd i ddydd.  Mae'r camau cyfreithiol hyn yn mynd rhagddynt ac nid ydym yn bwriadu gwneud unrhyw ddatganiadau tan fydd y broses wedi ei chwblhau.  

 

Rwy'n fwy na pharod i ailadrodd ymrwymiad Owen Evans i roi adroddiad cymodi sy'n fwy cyflawn i'r Pwyllgor unwaith y bydd yr achos llys wedi gorffen.

 

Yn y cyfamser, gallaf gadarnhau ein bod yn rhoi adroddiadau cyson i'n cydweithwyr yn Swyddfa Archwilio Cymru, o gofio pa mor bwysig yw'r mater hwn i ni. 

 

 

 

 

Tracey Burke

Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus  

 

Parc Cathays, Caerdydd  CF10 3NQ

Cathays Park, Cardiff  CF10 3NQ

                                                                                                                                                                                      Ffôn / Tel: 03000 258047

                                                                                                                                                               Gwefan website: www.cymru.gov.uk